Mae Dylan Huw (g.1996, Aberystwyth) yn sgwennwr a gweithiwr celf sy’n byw yn y gogledd-orllewin. Gan symud rhwng beirniadaeth gelfyddydol, prosiectau cyhoeddi a churadurol, a gwaith fideo, sain, a pherfformio gydag artistiaid eraill, mae’n ymdrin â iaith fel cyfrwng arbrofol, a chyfieithu fel celfyddyd a methodoleg. Yn llywio’i waith hefyd mae diddordeb mewn prosesau casglebol ac ymchwil hir-dymor. Enillodd wobr yn y 10fed International Awards for Art Criticism yn 2024, ac mae wedi bod yn olygydd gyda Artes Mundi 10, yn Gymrawd Ymchwil gyda Visual AIDS (2023), Cymrawd Curadurol gyda’r Flaherty (2023), Cymrawd Cymru’r Dyfodol (2022-3), a Sgwennwr Preswyl gyda Jerwood (2022).
Say hello! Tara neges!
[website under construction, gwefan ar waith]
[website under construction, gwefan ar waith]